Translate   10 years ago

Yma O Hyd Dwyt ti'm yn cofio Macsen, Does neb yn ei nabod o; Mae mil a chwe chant o flynyddoedd Yn amser rhy hir I'r co'; Pan aeth Magnus Maximus o Gymru Yn y flwyddyn tri-chant-wyth-tri, A'n gadael yn genedl gyfan A heddiw: wele ni! [Chorus] Ry'n ni yma o hyd, Ry'n ni yma o hyd, Er gwaetha pawb a phopeth, Er gwaetha pawb a phopeth Ry'n ni yma o hyd. Ry'n ni yma o hyd, Er gwaetha pawb a phopeth, Er gwaetha pawb a phopeth Ry'n ni yma o hyd. Chwythed y gwynt o'r Dwyrain, Rhued y storm o'r môr, Hollted y mellt yr wybren A gwaedded y daran encôr, L#lifed dagrau'r gwangalon A llyfed y taeog y llawr Er dued yw'r fagddu o'n cwmpas Ry'n ni'n barod am doriad y wawr! [Chorus] Cofiwn I Facsen Wledig Adael ein gwlad yn un darn A bloeddiwn gerbron y gwledydd 'Mi fyddwn yma tan Ddydd y Farn! ' Er gwaetha pob Dic Sion Dafydd, Er gwaetha 'rhen Fagi a'I chriw Byddwn yma hyd ddiwedd amser A bydd yr iaith Gymraeg yn fyw! [Chorus] (Brilliant Welsh song by Dafydd Iwan) #Welsh #Wales #Cymraeg #Cymru

  • React
  • Love
  • HaHa
  • WoW
  • Sad
  • Angry